Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2649
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig ac egnïol i ymuno â thîm staff ymroddedig Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan gyfarwyddyd yr Athro/Athrawes Dosbarth ac Uwch Dîm Arweinyddiaeth i ddarparu mynediad at ddysgu i bob disgybl, gan feithrin diwylliant o ofal a dysgu parhaus yn ogystal â darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro/athrawes yn yr ystafell ddosbarth.
Mae Ysgol y Santes Fair yn ysgol brysur, hapus a chyfeillgar lle mae Crist yn ganolog i bopeth a wnawn yn ein dysgu a’n chwarae. Mae ein staff yn groesawgar ac yn gefnogol i’w gilydd, gan gydweithio i ddarparu’r profiadau dysgu gorau i’n disgyblion. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth i fywydau ein pobl ifanc.
Darllenwch drwy'r proffil swydd cyn gwneud cais. Gellir cyfeirio ymholiadau i swyddfa’r ysgol ar 01554 759178 neu e-bostio admin@stmarysllanelli.ysgolccc.cymru
22/12/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.