Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2647
Athro Gwyddoniaeth dros dro
Math o gontract – Dros Dro (cyfnod penodol)
Cyflog – PRC/URC
Oriau – Llawn amser
Dyddiad cychwyn – 1af Ebrill 2026
Ydych chi'n angerddol am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr? Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Gwyddoniaeth deinamig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddgar. Mae'r swydd hon yn gofyn (yn ddelfrydol ond nid gorfodol) am y gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymgysylltiol i bob myfyriwr.
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn ysgol categori Dwyieithog (T3) wedi’i lleoli wrth ymyl tref Llandeilo, ar lannau’r afon Tywi a yng nghysgod Castell Dinefwr. Mae’n ysgol o 1089 o ddisgyblion sy’n darparu addysg i ddisgyblion o flwyddyn 7 – 13 yn ogystal ag uned Awtistiaeth arbenigol i 42 o ddisgyblion. Darperir addysg i ddisgyblion mewn lleoliad gwledig ac ar safle newydd sy’n cynnwys adnoddau dysgu rhagorol. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig addysg arloesol gan ddefnyddio ein canolfan Addysg Awyr Agored ‘Natur’, sy’n ardal o tua cyfer a hanner o ardd, llwyfan awyr agored, twnelai poly, llyn, a llety i’n Geifr, ieir a hwyaid. Ein nod yw creu amgylchedd o gyflawniad a chynhwysiant i bob aelod o’n cymuned ar mwyn iddynt esgyn ar adain dysg.
Rydym yn awyddus i benodi athro sy’n medru datblygu a darparu cynlluniau gwersi diddorol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn addas i arddulliau dysgu amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau dysgu arloesol i feithrin chwilfrydedd a meddwl beirniadol ymhlith myfyrwyr gan ddarparu adborth adeiladol a chymorth i fyfyrwyr i wella eu dealltwriaeth a'u meistroli o gysyniadau gwyddonol, a’u herio i ddysgu mwy am wyddoniaeth.
Fel adran blaengar bydd angen cydweithio gyda‘r tîm i greu cyfleoedd dysgu rhyngddisgyblaethol gyda ffocws benodol ar ddatblygu cwricwlwm awyr agored i ddisgyblion blynyddoedd 7-9. Bydd galw ar yr ymgeisydd llwyddiannus i gyfrannu at gwricwlwm TGAU hyd at Lefel A, gan baratoi disgyblion i gwrdd a’r her o wynebu arholiadau allanol a chyrraedd safonau uchel o gyrhaeddiad. Mae gan Ysgol Bro Dinefwr hanes o gynnal safonau cyrhaeddiad uchel ar draws y continwwm gan sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd Baglor mewn Gwyddoniaeth. Yn ychwanegol i hyn dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus statws Athro Cymwysedig (QTS) a phrofiad o ddysgu Gwyddoniaeth ar lefel uwchradd hyd at safon TGAU a lefel uwch.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i’r staff sy’n cynnwys rhaglen ddatblygiad personol eang a chynhwysfawr, cyfleodd i gyd-weithio yn agos gyda chymheiriaid o fewn a thu hwnt i faes dysgu Gwyddoniaeth a chefnogaeth adrannol i rannu adnoddau dysgu a datblygu cynlluniau newydd. Ymfalchïwn wrth gynnig amgylchedd gefnogol a ddatblygol gydag ethos o rannu arferion llwyddiannus er budd yr holl gymuned.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â’r Pennaeth Mr Eirian Davies am drafodaeth anffurfiol (Ffôn 01558 824800) neu drwy e-bost: eirian.davies@brodinefwr.org.uk.
Dyddiad cau: Dydd Iau 4/1/26, Canol dydd
Cyfweliad, wythnos sy’n cychwyn: I’w gadarnahau
Dyddiad Cychwyn: 1af Ebrill 2026
04/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.