Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2642
AIL-HYSBYSEB SWYDD
Mae Ysgol Gymunedol Dyffryn y Swisdir yn ysgol gynradd sy’n darparu addysg ar gyfer 225 o ddisgyblion 3 - 11oed. Mae wedi'i lleoli yn Nyffryn y Swisdir, Llanelli. Fe'i hadeiladwyd yn1969 ac mae wedi'i lleoli ar dir agored, yng nghanol Ystâd Parc Dyffryn y Swisdir, ac mae golygfeydd panoramig o Lanelli a'r cyffiniau.
Dymuna'r llywodraethwyr benodi ymarferydd ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddedig a deinamig i arwain, herio a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol cyson i bob disgybl. Arwyddair yr ysgol yw, “Mae rhaid mentro cyn cael dim!” - “Er mwyn llwyddo mewn unrhyw beth, rhaid i chi geisio yn gyntaf!”.
Rydym yn chwilio am rhywun sydd â:
Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)
Os hoffech drafod y cyfle cyffrous hwn ymhellach, fe'ch gwahoddir i gysylltu â Giles Morgan, Cadeirydd y Llywodraethwyr, ar AGMorgan@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio'r ysgol yn uniongyrchol ar 01554 774063.
30/01/2026, 12:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.