Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2602
Athro Ieithoedd Tramor Modern (Sbaeneg)
Math o gontract - Mamolaeth
Cyflog – PRC/URC
Oriau – Llawn amser
Dyddiad cychwyn – 13 Ebrill 2026
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Ieithoedd Tramor Modern deinamig ac ymroddgar i ymuno â’n tîm profiadol, gyda ffocws penodol ar ddysgu Sbaeneg hyd at Safon Uwch. Mae’r swydd hon yn gofyn (yn ddelfrydol er nid yn hanfodol) am y gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymgysylltuol i bob myfyriwr.
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn ysgol categori Dwyieithog (T3) wedi’i lleoli wrth ymyl tref Llandeilo, ar lannau’r afon Tywi a yng nghysgod Castell Dinefwr. Mae’n ysgol o 1100 o ddisgyblion sy’n darparu addysg i ddisgyblion o flwyddyn 7 – 13 yn ogystal ag uned Awtistiaeth arbenigol i 42 o ddisgyblion. Darperir addysg i ddisgyblion mewn lleoliad gwledig ac ar safle newydd sy’n cynnwys adnoddau dysgu rhagorol. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig addysg arloesol gan ddefnyddio ein canolfan Addysg Awyr Agored ‘Natur’, sy’n ardal o tua cyfer a hanner o ardd, llwyfan awyr agored, twnelai poly, llyn, a llety i’n ainfeiliaid. Ein nod yw creu amgylchedd sydd yn un cymuned, gyda pob cyfle a dim terfyn.
Rydym yn awyddus i benodi athro/awes sy’n medru datblygu a darparu cynlluniau gwersi diddorol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn addas i arddulliau dysgu amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau dysgu arloesol i feithrin chwilfrydedd a gwytnwch ymhlith myfyrwyr gan ddarparu adborth adeiladol a chymorth i fyfyrwyr i herio eu dealltwriaeth a'u meistroli ei defnydd o ieithoedd tramor modern.
Fel adran flaengar, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio’n agos â’r tîm Ieithoedd Tramor Modern i greu profiadau dysgu amrywiol, gyda ffocws arbennig ar ddatblygu cwricwlwm cyffrous ac ymgysylltiol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7–9, yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru.
Mae ein hadran yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddysgu ieithoedd, gyda Sbaeneg yn chwarae rhan allweddol yn y cynnig hwn. Bydd yr athro a benodir yn gyfrifol am addysgu Sbaeneg ar lefel TGAU hyd at Safon Uwch, gan sicrhau bod gwersi’n ysbrydoledig ac yn heriol, a pharatoi disgyblion i lwyddo mewn arholiadau allanol a chyrraedd safonau uchel o gyrhaeddiad.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar:
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i’r staff sy’n cynnwys rhaglen ddatblygiad personol eang a chynhwysfawr, cyfleodd i gyd-weithio yn agos gyda chymheiriaid o fewn a thu hwnt i’r maes pwnc a chefnogaeth adrannol i rannu adnoddau dysgu a datblygu cynlluniau newydd. Ymfalchïwn wrth gynnig amgylchedd gefnogol a ddatblygol gydag ethos o rannu arferion llwyddiannus er budd yr holl gymuned.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â’r Pennaeth Mr Eirian Davies am drafodaeth anffurfiol (Ffôn 01558 824800) neu drwy e-bost: eirian.davies@brodinefwr.org.uk.
Dyddiad cau: 4 Ionawr 2026 23:55
Cyfweliad, wythnos sy’n cychwyn: 12 Ionawr 2026
Dyddiad Cychwyn: 13 Ebrill 2026
04/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.