Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2596
Yn ofynnol ar gyfer cyn gynted â phosibl, Swyddog Cynhwysiad sy’n frwdfrydig ac yn gymwysedig i gefnogi ar draws yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â theulu ysgol sy’n ffynnu.
Rydyn ni’n ymroi i ddarparu profiadau heriol a dymunol i’n disgyblion i gyd ac yn chwilio am unigolyn sy’n danbaid ac yn gallu tanio a herio ein dysgwyr.
Mae Caerfyrddin, tref farchnad fywiog sydd ar gyrion dyffryn prydferth Tywi (ond 30 munud o Abertawe) yn gartref i ysgol gyfun arloesol sy'n ymrwymo i’r ysbryd o 'Ofalu, Dysgu, Arwain'. Mae ein hysgol ar y brig o ran rhagoriaeth addysgol ac rydym yn gymuned ofalgar a chefnogol lle mae ein dysgwyr yn ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Trwy feithrin diwylliant o ofal, dysgu parhaus ac arweinyddiaeth weledigaethol, rydym yn falch o osod y safon mewn addysg a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth sylweddol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, basem wrth ein boddau i glywed wrthoch.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad a’r ysgol cysylltwch â Tom Joyce - tom.joyce@qehs.carms.sch.uk (01267 245300)
04/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.