Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2576
Uwch-weithiwr Cymorth - Gofal Cartref (mewnol yn unig)10 x 37 awr yr wythnos
"Arwain â thosturi. Grymuso annibyniaeth."
Rhagorol yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, 2025.
Ydych chi'n unigolyn profiadol, hyderus a thosturiol gydag angerdd am ofal yn y gymuned? Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Rydym yn chwilio am 9 x Uwch-weithiwr Cymorth i ymuno â'n tîm a chwarae rôl allweddol wrth ddarparu a llunio Gwasanaeth Gofal Cartref mewnol Sir Gaerfyrddin .
Yn y rôl uwch hon, byddwch nid yn unig yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond hefyd yn darparu arweiniad, mentora a chefnogaeth o ddydd i ddydd i'n tîm ymroddedig o Weithwyr Gofal Cartref. Gan weithio fel rhan o dîm cefnogol a blaengar, byddwch yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, un person ar y tro. Byddwch yn cefnogi ac yn cael eich cefnogi i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Beth rydyn ni'n chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am 10 o bobl ymroddedig sydd naill ai â chymhwyster QCF Lefel 3 neu sydd â QCF Lefel 2 ac sydd wedi ymrwymo i weithio tuag at y QCF Lefel 3. Byddwch yn unigolion hyderus, tosturiol a llawn cymhelliant, yn barod i greu effaith ystyrlon o fewn ein tîm.
Byddwch chi'n unigolyn sydd yn:
Meddwl yn holistaidd – Rydych chi'n gweld y darlun ehangach, deall sut mae'n rhaid i systemau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl yn effeithiol.
Arwain gyda phwrpas – Rydych chi'n brofiadol mewn goruchwylio ac ysgogi timau gofal, gan sicrhau safonau uchel ac atebolrwydd proffesiynol.
Cyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus – P'un a ydych chi'n ymgysylltu â chriwiau ambiwlans, meddygon teulu, therapyddion, teuluoedd neu'ch tîm eich hun, rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth ac yn gweithredu'n bendant.
Yn canolbwyntio ar atebion – Rydych chi'n defnyddio'ch barn broffesiynol a'ch creadigrwydd i ddod o hyd i atebion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gydbwyso risg, annibyniaeth a gofal diogel.
Wedi ymrwymo i ragoriaeth – Rydych chi'n deall y rheoliadau a'r safonau sy'n llywodraethu gofal yng Nghymru ac yn ymdrechu i ragori arnynt.
Adeiladu partneriaethau cryf – Rydych chi'n gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau darpariaeth gwasanaeth amserol, di-dor.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
E-bost: gsinclair@sirgar.gov.uk
E-bost: ruthpowell@sirgar.gov.uk
22/12/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.