Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2573
Gweithiwr Cymorth Canolradd (Cartref yn Gyntaf)
(Yn cynnwys gweithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau)
Rhagorol yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, 2025.
"Mae Tosturi'n Meithrin Hyder – Helpu Pobl i Fyw'n Annibynnol Eto."
Ydych chi'n rhywun sy'n credu mewn helpu pobl yn ôl ar eu traed ar ôl salwch neu anaf? Dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn. Fel Gweithiwr Cymorth Canolraddd byddwch yn helpu unigolion (oedolion hŷn yn bennaf, ond nid yn unig) i adfer ac adennill eu hannibyniaeth ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, cyfnod o salwch, neu yn ystod adegau o argyfwng — gan eu galluogi i fyw'n ddiogel ac yn hyderus gartref.
Dim profiad? Dim problem! Os ydych chi'n ofalgar, yn bwyllog, yn cyfathrebu'n dda a bod gennych agwedd gadarnhaol ac awydd gwirioneddol i helpu eraill, rydyn ni am glywed gennych. Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y rôl hon.
Byddwch yn rhan o Dîm Gofal Canolraddol pwrpasol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio'n agos gyda nyrsys, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu gofal tymor byr, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael effaith wirioneddol ar adferiad a llesiant pobl.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Byddwch yn cael eich croesawu i dîm gofalgar a phroffesiynol sy'n ymfalchïo mewn cefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed trwy'r broses adfer a thrwy argyfyngau. Mae'n rôl heriol ond yn un a fydd yn rhoi boddhad mawr, gan gynnig y cyfle i feithrin eich hyder a datblygu eich gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Darperir gwisgoedd, bagiau, cyfarpar diogelu personol (PPE) a ffonau symudol i'n holl ofalwyr cartref weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
01/02/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.