Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2563
Mae cyfle i unigolion brwdfrydig a hyblyg ymuno â'r Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth i gynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd i reoli a chyflawni swyddogaethau'r Gwasanaethau Priffyrdd yn gyffredinol ledled Sir Gaerfyrddin.
Yn benodol, byddwch yn gyfrifol am ymgymryd â thasgau arbenigol fel Arweinydd Tîm (Gweithiwr Ffordd 2) ar gyfer tîm priffyrdd gweithredol sydd wedi'i leoli mewn depo ac sy'n gysylltiedig yn bennaf â gwaith cynnal a chadw ac adeiladu ffyrdd, troedffyrdd, strwythurau a charthffosydd dŵr wyneb. Gallai hyn gynnwys cloddio ffosydd, gosod draeniau, adeiladu tyllau archwilio, gosod cyrbau, gweithio gyda choncrit a gosod tarmac. Tasgau cynnal a chadw arferol a chylchol megis torri porfa, cynnal a chadw coed a chloddiau, chwistrellu chwyn, glanhau cyffredinol ac ysgubo asedau'r priffyrdd. Hefyd, bydd y dyletswyddau'n cynnwys gwaith ymateb brys ar y priffyrdd y tu allan i'r oriau arferol a swyddogaethau graeanu'r ffordd yn y gaeaf, a byddwch yn cael eich rhoi ar rota wrth gefn. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio yn yr awyr agored ym mhob math o dywydd.
Rhaid i'r ymgeiswyr feddu ar wybodaeth fanwl o waith adeiladu a chynnal priffyrdd ym maes peirianneg sifil, a meddu ar brofiad blaenorol o arwain tîm. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth gyflawn a phrofiad ymarferol o reoliadau ac arferion iechyd a diogelwch, a dealltwriaeth drylwyr o asesiadau risg a systemau gweithio diogel.
Bydd gennych sgiliau da o ran cyfathrebu a threfnu, i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn bodloni dyddiadau cau a thargedau.
17/12/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.