Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2493
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cofrestredig sydd â chymwysterau addas (gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Dip Sw, CQSW) sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd heriol meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn wybodus am waith cymuned ac ysbyty.
Dylai ymgeiswyr fod yn unigolion brwdfrydig a phrofiadol sydd a’r gallu i weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i gynhyrchu asesiadau, datblygu cynlluniau gofal a chymorth, adolygiadau a gwaith uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael y dechrau gorau gyda chymorth pwrpasol i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth aruthrol sydd gan brofiad a'r gwaith cymhleth y mae Gweithwyr Cymdeithasol profiadol yn ei wneud. Byddwch yn cael cyfle i wneud cynnydd o ran ymarfer gwaith cymdeithasol (y tu allan i lwybr rheoli) drwy ein 'Fframwaith Cynnydd ar gyfer Ymarferydd Profiadol'. Mae cynnydd llwyddiannus yn cynnig yr ystod uwch o wobrau cyflog.
Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd ar afael gadarn o’r ddeffwriaeth berthnasol o oblygiadau statudol y swydd gan arddangos gwir ymrwymiad at egwyddorion hyrwyddo annibyniaeth ar gyfer pobl anabl.
Lleolir y swydd yn nhîm Derbyn ac Asesu Gwaith Cymdeithasol, i weithio gydag oedolion ag anableddau corfforol ac oedolion gydag anawsterau cof a meddwl. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin a byddwch yn cefnogi pobl sy'n byw yn ardal Teifi, Taf, Tywi a'r dref. Gweler y Fanyleb Person am fanylion pellach.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu teithio ledled y Sir.
Mae angen gallu sylfaenol yn y Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Grace Challinor, Rheolwr Tîm Cynorthwyol -
GChallinor@carmarthenshire.gov.uk / 01267 246968.
28/12/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.