Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2472
Yn Sir Gaerfyrddin, rydyn ni'n gwybod y gall Gweithwyr Cymdeithasol da wneud byd o wahaniaeth i blant a theuluoedd sydd angen cymorth.
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Reolwr Cynorthwyol Tîm profiadol a gwybodus.
Bydd Rheolwr Cynorthwyol y Tîm yn dal llwyth achosion bach, cymhleth ac yn cyflawni rôl oruchwylio i nifer cyfyngedig o Weithwyr Cymdeithasol yn ein Gwasanaeth Mabwysiadu (GORLLEWIN) - tîm prysur sy'n gyfrifol am asesu darpar fabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd a pharu ymysg swyddogaethau statudol eraill
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gydweithrediad mabwysiadu rhanbarthol ar draws 4 Awdurdod lleol cyfagos, Powys, Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fel yr awdurdod cynnal.
Mae'r Cydweithrediad Mabwysiadu Rhanbarthol yn ymfalchïo ei fod yn cyflawni pharhauster ar gyfer plant ar draws y rhanbarth a hwn fyddai'ch cyfle chi i weithio gyda thîm ymrwymedig a phrofiadol i gefnogi plant a mabwysiadwyr.
Rydyn ni'n chwilio am berson ysbrydoledig, brwdfrydig ac egnïol sy'n gallu cydweithio ac arwain ac ysgogi tîm i ddarparu gwasanaeth o safon i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, gan sicrhau bod ymarfer gweithwyr cymdeithasol o safon uchel
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm gwybodus a blaengar sy'n gwerthfawrogi'r profiad a'r sgiliau sydd gennych chi.
Byddwch chi'n rhan o dîm, sydd wedi ymrwymo i ddarparu ymarfer Gwaith Cymdeithasol o ansawdd uchel mewn perthynas â phrosesau Mabwysiadu
Rydyn ni'n chwilio am ymgeiswyr sydd â chymhwyster Gwaith Cymdeithasol a phrofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn rôl gofal cymdeithasol.
Gallwn ni gynnig cymorth ymsefydlu cynhwysfawr, goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd, gweithio hybrid a hyblyg, a rhaglen datblygiad proffesiynol gefnogol.
Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi gyfrannu a dod â'ch profiad, eich syniadau a'ch sgiliau i'r tîm, rydyn ni eisiau clywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Catrin Williams, CatrWilliams@sirgar.gov.uk
16/12/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.