Drwy glicio "Rwy'n derbyn" rydych yn cytuno â'r defnydd o gwcis ar ein gwefan i gefnogi nodweddion technegol ac ystadegau dienw
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
2422
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Morlan Elli i ymuno â'n Tîm Canol y Dref o fewn Datblygu Economaidd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig, egnïol a chryf ei gymhelliant gyda'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau adfywio gwerth miliynau o bunnoedd yn amgylchedd arfordirol Llanelli, sy'n ymestyn o Borth Casllwchwr i Ben-bre/Porth Tywyn.
Fel rhan o dîm blaengar a phroffesiynol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu rhaglenni adfywio ffisegol ar gyfer Morlan Elli. Byddwch yn ymwneud â phrosiectau datblygu allweddol o'r cysyniad hyd at eu cwblhau, gan gynnwys gwaredu asedau tir, a byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau mewnol a phartneriaid allanol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.
Byddwch yn gyfathrebwr ac yn drafodwr rhagorol, yn hyderus wrth ddelio â phobl ar bob lefel. Gyda sgiliau TG cryf a dealltwriaeth gadarn o reoli prosiectau, datblygu eiddo ac adfywio, byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol, cadw at amserlenni a chyfrannu at nodau ehangach y tîm Datblygu Economaidd. Yn fwy na dim, rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd am adfywio ac agwedd gadarnhaol.
Mae'r Awdurdod yn cynnig lle gwych i fyw a gweithio, gyda heriau amrywiol a chyffrous iawn mewn lleoliadau arfordirol, trefol a gwledig. Bydd y gallu i deithio ledled y Sir yn hanfodol.
Os ydych yn credu eich bod yn meddu ar y profiad, y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i gyflawni'r swydd hon, byddem yn eich annog i gysylltu â ni.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Tessa Bufton ar 07929 786537 neu drwy e-bostio TBufton@sir.gov.uk.
09/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Mae'r cyfle hwn ar gau i geisiadau.