Pan fyddaf yn ceisio cofrestru, mae’n dweud bod gennyf gyfrif eisoes
Nid yw'n bosibl creu dau gyfrif gyda'r un cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn ceisio cofrestru gyda chyfeiriad e-bost sydd eisoes wedi'i gofrestru, byddwch yn derbyn y neges gwall ganlynol:
"Mae cyfrif eisoes wedi'i gofrestru gyda'r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi'i nodi. Defnyddiwch y ddolen 'Ailosod Cyfrinair' ar ochr chwith yr hafan i ailosod eich cyfrinair."
Dylech ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost ar gyfer eich holl geisiadau fel y gellir eu cysylltu â'i gilydd.
Sut i wirio a oes gennych gyfrif eisoes
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych gyfrif neu eich bod yn cael problemau cofrestru eich cyfrif e-bost, efallai eich bod wedi mewngofnodi â ni eisoes. Defnyddiwch y ddolen i dderbyn neges atgoffa ynghylch eich cyfrinair.
Neu efallai y byddwch yn cael y neges hon bob tro y byddwch yn ceisio cofrestru:
’Rydym wedi sylwi bod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair sy’n mynd â’i gilydd yn barod.
Mae’r Ffurflen Gais hon yn eich galluogi i fewngludo unrhyw wybodaeth sy’n cael ei gofyn yn aml, fel manylion personol ac addysg, i’r ffurflen gais heb i chi orfod eu haildeipio.
Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, cliciwch ar y ddolen ’Neges Atgoffa ynghylch Cyfrinair’ ar y chwith a byddwn yn anfon y manylion mewn e-bost atoch chi.’
Os ydych, am ba reswm bynnag, wedi cofrestru ar gyfer nifer o gyfrifon gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost, nid yw’n golygu y bydd eich enw defnyddiwr yr un fath ar gyfer pob cyfrif.
Os eich enw defnyddiwr ar gyfer y cyfrif cyntaf yw:
5andra@derbusbahnof.com
Yna mae’n bosib mai eich enw defnyddiwr ar gyfer eich ail gyfrif yw:
5andra@derbusbahnhof.com1
Os oes gennych nifer o gyfrifon, sicrhewch eich bod yn defnyddio’r un cyfrif ar gyfer pob cais. Os ydych wedi dechrau ar ffurflen gais gan ddefnyddio un cyfrif, ni fydd yn bosib i chi fynd yn ôl i’r un ffurflen gais drwy ddefnyddio cyfrif gwahanol. Yn yr un ffordd, ni fydd manylion mewngofnodi cyfrif 2 yn caniatáu i chi fewngofnodi i ffurflen gais y gwnaethoch ei dechrau drwy ddefnyddio cyfrif 1.