Ni allaf weld fy ffurflen gais sydd wedi'i chadw/chyflwyno

Os ydych yn gweld ffurflen gais wag wrth geisio mynd yn ôl i ffurflen sydd eisoes wedi'i dechrau/chyflwyno, mae'n bosibl eich bod yn mewngofnodi i'r proffil anghywir.

Proffil anghywir

Dim ond un proffil gewch chi ei greu ar gyfer pob cyfeiriad e-bost. Os ydych yn cael trafferth gweld eich ffurflen gais sydd wedi'i chadw/chyflwyno, mae'n debygol eich bod wedi gwneud eich cais gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ceisiwch fewngofnodi gan ddefnyddio un o'ch cyfeiriadau e-bost eraill. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch ar y ddolen 'Ailosod Cyfrinair' yn y ddewislen ar ochr chwith y Ganolfan Geisiadau.

Defnyddiwch yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer eich holl geisiadau.

Pynciau Cysylltiedig