Methu golygu rhannau

Rydych wedi ceisio golygu rhai rhannau sydd wedi'u cwblhau ond nid yw'n bosib cadw'r newidiadau. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Sut i olygu'r rhannau sydd wedi'u cwblhau

Y peth cyntaf i'w wneud yw gwneud copi o'r wybodaeth rydych wedi'i chadw ar y dudalen honno ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw clirio'r dudalen gyfan. Gwnewch hyn drwy glicio ar y ddolen 'Cliciwch yma i glirio pob rhan' - sydd o dan 'Cadw a Symud Ymlaen'. Bydd hyn yn dileu'r holl ddata ym mhob rhan ar y dudalen honno. Ar ôl clirio'r rhannau, dylech allu cadw unrhyw wybodaeth newydd. 

Mae'r botwm 'Ailosod tudalen' yn cael ei ddefnyddio i gael yn ôl unrhyw ddata a gafodd ei ddileu gennych ar y dudalen honno cyn i ichi bwyso'r botwm 'Cadw a Symud Ymlaen' i fynd i'r dudalen nesaf. Er enghraifft, os ydych yn dileu eich cyfeiriad drwy gamgymeriad gallwch bwyso'r botwm 'Ailosod tudalen' a chael y wybodaeth honno'n ôl cyn belled ag nad ydych wedi symud ymlaen i'r dudalen nesaf drwy bwyso'r botwm 'Cadw a Symud Ymlaen'.

Pynciau Cysylltiedig