Gofalwr Cartref – Swyddi gwag ledled Sir Gaerfyrddin
Swyddi parhaol gydag ystod o oriau contract hyd at 35 awr yr wythnos (trefniadau gwaith achlysurol ar gael)
Gradd E - £14.32 - £16.02 yr awr (gan gynnwys gweithio ar benwythnosau)
Mae ein cyfraddau cyflog yn hynod gystadleuol gyda swyddi tebyg ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nid yn unig y mae’r gyfradd fesul awr ar gyfer oriau cytundebol gwarantedig ymhlith y rhai sy’n talu orau yng Nghymru, rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill megis talu i deithio rhwng galwadau a 45c y filltir ar gyfer costau car personol, defnyddio ceir cronfa, mynediad i cynlluniau gwobrwyo, cynllun pensiwn cyfradd uchel, hawl hael i wyliau â thâl, lwfansau mamolaeth a thadolaeth a llawer mwy.
Mae gwisgoedd, bagiau, offer amddiffynnol personol (PPE), a ffonau symudol yn cael eu darparu i'n holl ofalwyr cartref i gael mynediad at eu rhestrau dyletswyddau a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau staff.
Gan eich bod yn ofalwr cartref, bydd eich dyletswyddau’n cynnwys darparu gofal personol (e.e. helpu pobl i gael bath, ymolchi, gwisgo, defnyddio’r toiled), paratoi prydau bwyd, rhoi meddyginiaeth a helpu defnyddwyr gwasanaeth gydag adsefydlu i’w helpu i adennill eu hannibyniaeth.
Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth helaeth i ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i fod yn ofalwr gwych. Mae'n waith caled ond yn werth chweil a byddwch yn rhan o sefydliad mawr gyda chyfleoedd i symud ymlaen.
Fe'ch croesewir i mewn i Dîm Gofal Cartref Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gwisgo eu gwisg gyda balchder, gan gefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed mewn cymunedau lleol. I ddarllen yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud amdanom dilynwch y ddolen i’r adroddiad arolygu diweddaraf arolygiaethgofal.cymru.
Mae hwn yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol, lle bydd eich cefnogaeth yn galluogi pobl ag anghenion gofal (yn bennaf ond nid yn gyfan gwbl oedrannus) i fyw yn eu cartref eu hunain pan mae wedi mynd yn rhy anodd iddynt ymdopi ar eu pen eu hunain.
Os oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych.
Dim profiad? Dim problem!
Os ydych chi’n garedig, yn ddigynnwrf ac yn cyfathrebu’n dda ag eraill, yn dod ag agwedd gadarnhaol at waith, ac eisiau gwneud pethau’n well i bobl sydd angen gofal, yna gallwn gynnig yr holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyflawni’r rôl.
Mae bod yn Ofalwr Cartref yn swydd sy'n rhoi'r boddhad mwyaf lle byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy. Mae gennym hefyd lawer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Felly, p’un a ydych am fod yn Ofalwr Cartref fel gyrfa hirdymor, eisiau ennill profiad a sgiliau pwysig cyn cychwyn ar yrfa wahanol neu addysg uwch, yna rydym am glywed gennych.
Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â:
• Goruchwylwyr ar Ddyletswydd - 01267 246928
• Eleri Gealy – 01267 242474
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.