Goruchwylydd Brecwast – LLanddarog

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.  

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.  Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.   

Ynglŷn â'r swydd wag

40 

Cyngor Sir Caerfyrddin
Arlwyo
1
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Sir Gaerfyrddin
Gradd A +4%
£23,261
£12.05
3.75

Mae angen Goruchwylydd Brecwast dibynadwy ac ymroddedig ar ein hysgol i oruchwylio disgyblion wrth iddynt gyrraedd ac yn ystod y gwasanaeth. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd helpu i weini ein lluniaeth a chyflawni dyletswyddau cyffredinol yn yr ystafell fwyta gan gynnwys clirio a sychu byrddau.

Ein horiau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig, sy'n ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol / y diwrnod ysgol. Rydym yn cynnig cynllun cyflog 'blynyddol' fel bod ein staff sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig yn derbyn cyflog dros 52 wythnos.

Yr Ymgeisydd: Mae angen rhywun arnom sy'n meddu ar y canlynol:

  • Y gallu i feithrin perthnasoedd da gyda rhieni a phlant ar sail parch at y naill a'r llall.
  • Profiad o oruchwylio plant. Byddai hyn yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.
  • Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd sylfaenol. Byddai hyn yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.
  • Sgiliau pobl a sgiliau cyfathrebu da
  • Y gallu i weithio mewn tîm.
  • Agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Paula Skyrme – 07880 504070 – PSkyrme@sirgar.gov.uk

14 Mawrth 2024
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

02/05/2024, 23:55 

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys: 

  • Cyflog cystadleuol 
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu.  Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. 

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.